Penrhyn Gwyr

Penrhyn Gwyr yw un or mannau prydferthaf ym Mhrydain Fawr, yn wir mai ei golygfeydd mwyaf ysblennydd, yn cymharu’n ffafriol â unlle yn y byd.

Gwyr oedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf i’w dynoli yn y Deyrnas Unedig, a hawdd deall pam. Fe’i dewiswyd oherwydd ei harfordir clasurol a’i hamgylchedd naturiol. Ar y cyfan mae’n ardal annatblygedig. ac or herwydd, heb ei dirfodi.Ceir yma dirwedd amrywiol, 34 milltir o arfordir, gyda 50 o draethau bendigedig, clogwyni ysblennydd, pentrefi deniadol, a chefn gwlad tangnefeddus. Nid yw'n ganolfan addas i'r sawl sy'n chwilio am ddifyrrwch soffistigedig, ac adloniant wedi ei drefni. ac yn hyn mae ei gyfaredd arbennig.





Bae Three Cliffs, Gwyr



Yr Arfordir deheuol yw prif atynfa y Penrhyn. Yma fe geir traethau poblogaidd, Bracelet a Limeslade, Langland a Caswell. Wedi mynd heibio iddynt, mae’r tirwedd yn newid, mae’r arfordir yn fwy garw. Ceir clogwyni trawiadol yn ymestyn or Tri Chlogwyn hyd at Bentir Pen Pydrod yn Rhosili. Dywedir mae dyma’r 7fed man mwyaf poblogaidd yn y byd i dynnu llun y machlud.






Pen Pydrod, Rhosili




Wrth droed clogwyni calchfaen De Gwyr, ceir traethau godidog, a chilfachau o draeth melyn. Cawn yma’r traethau gorau yn y D.U. i gampau dwr. Gwelir pobol yn pysgota, a brigo tonnau, hwylio cychod a nofio. Yn flynyddol mae’r arfordir yn ennill llu o wobrau, or Faner Las, i ddyfarniad Traethau Gwledig ac Arfordir Gwyrdd-oll yn dangos ansawdd gwych y traethau.






Twyn Rhosili, Hillend Burrow a Pen Pydrod.







Yr ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen y rhan helaethaf o Rhosili, y clogwyni, traethau, Pen Pydrod a’r Twyn. Mae’n baradwys i gerddwyr, mae gwyrddni pen y clogwyni, gyda charped o redyn a brwyn melyn, golygfeydd ysblennnydd a thrawiadol yn gyrchfan poblogaidd drwy’r flwyddyn. Yn ôl papur dyddiol ‘Y Times’, mae cilgaint Bae Rhosili (rhyw 3 milltir o hyd) ymhlith yr ugain man cerdded mwyaf delfrydol yn y Deyrnas Unedig.






Paragliding, Twyn Rhosili.



Y pwynt uchaf ym Mhro Gwyr yw Twyn Rhosili, mae’n werth cerdded yno er mwyn gwerthfawrogi’r golygfeydd godidog. Mae’r Twyn hefyd yn enwog am ei archaeoleg, gyda thomenni claddu, carneddau a siambrau cerrig. Mae nifer o ogofeydd yn y clogwyni calch yn ogystal, sydd o bwys i archaelogwyr, un ohonynt yw Ogof Paviland.













Penclawdd, Gwyr



Mae ochor gogleddol y Penrhyn yn dra gwahanol, yn llawer mwy gwastad, ac wedi ei ymylu âg aber yr Afon Llwchwr. Mae’n edrych yn fan eithaf anghyfannedd pan fo’r llanw’n isel, ac fe fydd y morfa halen helaeth i’w weld. Ceir nifer o bentrefi deniadol wrth ymyl y morfa, rhai ohonynt yn ganolfannau y diwidiant cocws hyd heddiw. Llanmorlais, Llanrhidian a Penclawdd. Fe werthir y cocws a chynnyrch y ffermydd bach ym marchnad Abertawe.












Carred Arthur yn ymyl Cefn Bryn, Gwyr




Mae’r trym sy’n rhannu de a gogledd Gwyr yn codi i dros 600 troedfedd mewn dau fan, ac yma fe geir golygfeydd godidog, mor bell a Sianel Bryste, Dyfnaint, Pemfro, Brycheiniog a Sir Gâr. Mae amrywiaeth y tirwedd yn ei wneud yn fan delfrydol i gerddwyr. Mae nifer o lwybrau cerdded wedi eu clystnodi, yn wir mae’n bosib cerdded llwybr yr arfordir o gylch y Penrhyn – rhyw 45 milltir.


















Fe welir cyfoeth o fywyd gwyllt amrywiol, ac fe ddarganfu’r botanegwr amrywiaeth enfawr o blanhigion. Mae oloin bywyd dynol, yn mynd nol i gyfnod cynhanes, i’w weld ym Mhenrhyn Gwyr. Ceir yma dros 1,200 o safleoedd archaeoleg, gyda thomenni claddu, carneddau a siambrau cerrig sy’n hawdd eu hadnabod, fel Carreg Arthur yn ymyl Cefn Bryn. Mae yma chwe castell, Caer or Oes Haearn a nifer fawr o eglwysi.












Castell Oxwich, Gwyr




Bu addoli Cristnogol yng Nghwyr dros gyfnod o bymtheg canrif, saif llawer or eglwysi ers dros saith canrif yn y man lle by adeiladau symyl Celtaidd o’u blaen. Am ganrifoedd bu’r eglwysi hyn yn fan cyfarfod i’r pentrefi bychain. Heddiw, ym mhob pentref, mae rhyw nodwedd o ddiddordeb, boed yn eglwys, croes, neu cerflun.







Tri Chlogwyn ac yn y pellter Great Tor




Mae Gwyr yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr. Wedi “darganfod” y Penrhyn, daw yn ôl yn gyson i fwynhau rhyfeddodau’r rhan unigryw yma o Gymru.